Croeso i Agored.com
Datblygiad o OpenOffice.org 2.0 ar gyfer Cymru yw Agored. Mae OpenOffice.org ar gael mewn dros 50 o ieithoedd ac mae'n cynnwys rhaglenni ar gyfer prosesu geiriau, gweithio gyda thaenlenni, cyflwyno, darlunio, a chronfa ddata integredig hefyd. Os buoch yn defnyddio Microsoft Office (Word, Excel, Powerpoint ac ati) hawdd iawn fydd trosglwyddo yr un sgiliau i Agored. Ac mae Agored ar gael am ddim!
Prynu'r llawlyfr a'r CD arlein
Mae Agored yn cynnwys y manteision canlynol:
-
y rhaglen lawn yn Gymraeg - y rhyngwyneb a hefyd y sgriniau cymorth
-
dewis rhwng y Gymraeg a'r Saesneg fel iaith y sgrin
-
gwirydd sillafu Cymraeg a Saesneg ar y bar offer beth bynnag fo iaith y sgrin
-
mae'n gweithio ar Windows 98 a phob fersiwn diweddar
-
cewch ddadlwytho'r rhaglen am ddim o'r wefan hon dan drwydded côd agored
-
bydd modd prynu llawlyfr cynhwysfawr (gyda CD o'r rhaglen) drwy'r wefan hon neu yn y siopau



