Skip to content

Agored.com

Sections
Personal tools
You are here: Home » Croeso i Agored.com

Croeso i Agored.com

Datblygiad o OpenOffice.org 2.0 ar gyfer Cymru yw Agored. Mae OpenOffice.org ar gael mewn dros 50 o ieithoedd ac mae'n cynnwys rhaglenni ar gyfer prosesu geiriau, gweithio gyda thaenlenni, cyflwyno, darlunio, a chronfa ddata integredig hefyd. Os buoch yn defnyddio Microsoft Office (Word, Excel, Powerpoint ac ati) hawdd iawn fydd trosglwyddo yr un sgiliau i Agored. Ac mae Agored ar gael am ddim!

Prynu'r llawlyfr a'r CD arlein

Dadlwytho Agored

Mae Agored yn cynnwys y manteision canlynol:

  • y rhaglen lawn yn Gymraeg - y rhyngwyneb a hefyd y sgriniau cymorth
  • dewis rhwng y Gymraeg a'r Saesneg fel iaith y sgrin
  • gwirydd sillafu Cymraeg a Saesneg ar y bar offer beth bynnag fo iaith y sgrin
  • mae'n gweithio ar Windows 98 a phob fersiwn diweddar
  • cewch ddadlwytho'r rhaglen am ddim o'r wefan hon dan drwydded côd agored
  • bydd modd prynu llawlyfr cynhwysfawr (gyda CD o'r rhaglen) drwy'r wefan hon neu yn y siopau
Created by palepurple
Last modified 2006-12-20 08:21 PM